|
XML SAMPLES:
Welsh Literature
<text>
<front>
<div1>
<pb>
<p><b>TEULU BACH NANTOER</b></p>
<p><b>L.M. OWEN</b></p>
<p><b>WRECSAM: HUGHES A'I FAB.</b></p>
<pb>
<p><figure><head>Wyneb-ddarlun.
NANTOER.</head></figure></p>
</div1>
<div1 type="title page">
<p><b>TEULU BACH</b></p>
<p><b>NANTOER</b></p>
<p><b>CHWEDL I BLANT</b></p>
<p><b>GAN</b></p>
<p><b>MOELONA</b></p>
<p><b>WRECSAM</b></p>
<p><b>HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR</b></p>
</div1>
<div1>
<p>I Blant Cymru y dymunaf gyflwyno'r llyfr
bychan hwn, gan hyderu y cânt ynddo
fwynhad, a rhyw gymaint o symbyliad i garu
â chariad mawr eu hiaith, eu gwlad, a'u
cenedl.</p>
<trailer>Caerdydd, lonawr 9fed, 1913.</trailer>
</div1>
<div1>
<head>EISTEDDFOD FRENHINOL GENEDLAETHOL
GWRECSAM, Medi 2, 3, 4, 5, 6, 7, 1912.</head>
<p><b>BEIRNIADAETH</b> Mr. L. J. Roberts, M.A.,
H.M.I. <i>(Schools),</i> ar yr "Ystori yn
disgrifio Bywyd Cymreig," i Blant Ysgol rhwng 12
a 14 oed. £5. Derbyniwyd pedair ystori. Yr
oreu,—</p>
<p><b>O'R DE.</b>—Saif ystori <i>O'r
De</i> ar ei phen ei hun yn y gystadleuaeth. Er
fod <i>Awena a Chadwaladr</i> yn dda, y maent
ymhell bell ar ol <i>O'r De.</i> Ye mae hon yn
ystori feistrolgar dros ben; anodd fyddai cael
dim gwell i'r pwrpas. Yn wir, gem fechan yw. Y
mae yr ystori ei hun yn swynol a chwaethus; ac y
mae'r iaith yn syml, yn bur, ac yn goeth
neilltuol. Nis gallaf lai na llongyfarch yr
awdur ar ei waith; nid yn aml yr ydwyf wedi
darllen dim gyda chymaint o flâs. Rhaid
llongyfarch plant Cymru ar y wledd sydd o'u
blaen; ca miloedd ohonynt bleser nid bychan, a
phleser iachus, wrth ddarllen hanes toddedig
"Teulu Bach Nantoer." Pwy bynnag yw yr awdur, y
mae wedi gwneud cymwynas â'i gydwladwyr
ieuainc (a'r hen hefyd) wrth ysgrifennu ystori
sydd yn ychwanegiad gwerth fawr i lenyddiaeth
Cymru.</p>
<signed>L. J. ROBERTS.</signed>
</div1>
<div1>
<pb>
<head>CYNHWYSIAD.</head>
<list>
<item>PENNOD I <ref>1</ref></item>
<item>PENNOD II <ref>6</ref></item>
<item>PENNOD III <ref>9</ref></item>
<item>PENNOD IV <ref>14</ref></item>
<item>PENNOD V <ref>18</ref></item>
<item>PENNOD VI <ref>22</ref></item>
<item>PENNOD VII <ref>29</ref></item>
<item>PENNOD VIII <ref>34</ref></item>
<item>PENNOD IX <ref>37</ref></item>
<item>PENNOD X <ref>43</ref></item>
<item>PENNOD XI <ref>46</ref></item>
<item>PENNOD XII <ref>51</ref></item>
<item>PENNOD XIII <ref>56</ref></item>
<item>PENNOD XIV <ref>59</ref></item>
</list>
</div1>
</front>
<body>
<div1>
<pb n="1">
<head>Teulu Bach Nantoer.</head>
<head>PENNOD I.</head>
<epigraph><q><lg>
<l>"Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant</l>
<l>Eisteddai gwraig weddw ynghanol ei
phlant."</l>
</lg></q><bibl><i>Ceiriog.</i></bibl></epigraph>
<p><b>UN</b> o nosweithiau hir y gaeaf oedd.
Oddiallan, rhuai'r gwynt a disgynnai'r gwlaw,
ond ar aelwyd glyd Nantoer, gwenai'r tân
yn siriol, ac yr oedd gwedd gysurus ar y teulu
bychan o'i flaen. Newydd fynd heibio oedd y
Nadolig, a gadawsai y tymor hwnnw ei ôl
yma fel mewn mannau ereill. Daethai rhyw Santa
Clôs caredig heibio hyd yn oed i'r bwthyn
bach ar fin y rhos, ac yn hapus a distaw, yn y
mwynhad o'i roddion, y cawn, ar yr hwyr garw
hwn, ein golwg gyntaf ar y teulu.</p>
<p>Ar bob ochr i'r tân, o dan y simne
fawr, ymestynnai dau bentan hir. Ar y naill,
eisteddai Ieuan, llanc llygatddu deuddeg oed,
a'i bwys ar ei law, yn prysur ddarllen llyfr. Ar
y llall yr oedd
<pb n="2">
Alun a'i brennau a'i ysglod a'i offer saer, yn
dwyn i fôd ryw ryfeddod newydd mewn gwaith
coed. Tua deg oed oedd efe, a goleu oedd ei
wallt a'i lygaid. Ar bob i ystol fechan,
eisteddai Mair ac Eiry fach, a phen tywyll y
naill a gwallt modrwyog melyn y llall yn cwrdd
â'i gilydd unwchben y llyfr darluniau
newydd oedd o'u blaen. Saith oed oedd Mair, a
dwy flwydd a hanner oedd Eiry. Wrth y ford gron
a'r lamp eisteddai Gwen Owen, y fam, yn prysur
wau hosan, a'i llygaid yn aros yn garuaidd ar y
naill ar ol y llall o'i hanwyliaid bach.</p>
<p>Ni welid y tad ar yr aelwyd. Ers mwy na dwy
flynedd yr oedd enw Elis Owen wedi ei gerfio ar
garreg fedd ym mynwent Y Bryn. Anaml y soniai y
fam am dano wrth y plant. Gwell oedd ganddi i
Ieuan ac Alun beidio ei gofio o gwbl nag iddynt
ei gofio yn dad meddw yn blin ymlwybro tua'r
tŷ yn hwyr y dydd. Gan iddo wario ei holl
arian, a marw cyn cyrraedd canol oed, gorfu i'w
weddw ieuanc ofyn am help y plwyf i fagu ei
phedwar plentyn. Enillai hithau ychydig drwy
wnio i hon ac arall, fel y gwnae yn gynarach yn
ei bywyd, ac yr oedd yn Nantoer ddigon o dir i
gadw un fuwch.</p>
<p>Menyw dàl oedd Gwen Owen. Gwallt du,
tonnog, fel un Mair, oedd ganddi, ond fod
<pb n="3">
llinellau arian drwyddo i gyd erbyn hyn. Yr oedd
edrchiad ei llygaid yn dyner a dwys, a thawel
bob amser oedd ei llais. Yr oedd y plant i gyd
wedi dysgu bod yn ufudd iddi. Gwnaent bob amser
yn llon yr hyn a geisiai, ac yn ol eu barn unol
a diysgog, nid oedd mam hafal i'w mam hwy gan
neb o fewn y byd.</p>
<p>"Mam," ebe Ieuan yn sydyn, gan gau ei lyfr,
"teulu tlawd y'm ni, onide?"</p>
<p>"Ie, mae'n debyg, machgen i," ebe y fam yn
didstaw, "Pam wyt ti'n gofyn?"</p>
<p>"Wedi bod yn darllen am Abram Lincoln wyf.
'Roedd yntau mor dlawd ag y gallai fod pan yn
blentyn, ond efe oedd prif ddyn America cyn iddo
farw. Un fel Abram Lincoln wyf fi'n mynd i fod
pan ddof yn ddyn."</p>
<p>Edrychodd ei fam arno am funud cyn ateb.
Debyced oedd i'w dad yn edrychiad ei lygaid! Yr
oedd ei dad wedi <i>bwriadu</i> gwneud pethau
mawrion, ond ar ol dechureu llithro, yn îs
yr aethai, nes cyrraedd y bedd cyn gwneud dim.
Ai felly y byddai hanes Ieuan? Na, er tebyced
oeddynt, yr oedd mwy o benderfyniad yn wyneb y
mab. Hwyrach mai ym mywyd Ieuan y cae bwriadau
ei dad, druan, ddod i ben! A hi, ei</p>
</div1>
</body>
</text>
|